Student Volunteering Bangor (SVB) is a department within the Students’ Union which has over 1,000 members, 250 of whom volunteer on one or more of our community based projects. SVB volunteers currently contribute a total of 400 hours each week which promotes a close relationship between the university and the local community.
SVB has a vision that it should be commonplace for students to volunteer whilst they are at university and that the Students’ Union should do everything they can to support, promote and develop student volunteering. That is why SVB’s main aim is to assist students to lead their own, community based volunteering projects and provide student volunteers with the support and training they need to do so.
If you would like to know more about volunteering on one of our projects, or are interested in setting up your own, join our mailing list to register your interest. You will then receive regular emails to notify you when new volunteering opportunities become available.
To find out more about our work, our opportunities and how to get involved you can also email us, visit us at the SVB office on the first floor of the Students’ Union building or download our information leaflet. You can also find us on Facebook.
Mae Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (GMB) yn adran o fewn Undeb y Myfyrwyr sydd â thros 1,000 o aelodau, gyda 250 ohonynt yn gwirfoddoli ar un neu fwy o’n prosiectau cymunedol. Mae GMB ar hyn o bryd yn cyfrannu cyfanswm o 400 o oriau bob wythnos sy’n hyrwyddo perthynas agos rhwng y brifysgol a’r gymuned leol.
Mae gan GMB weledigaeth y dylai fod yn beth cyffredin i fyfyrwyr wirfoddoli yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol ac y dylai Undeb y Myfyrwyr wneud popeth o fewn ei allu i gefnogi, hyrwyddo a datblygu gwirfoddoli myfyrwyr. Dyna pam mai prif nod GMB yw cynorthwyo myfyrwyr i arwain eu prosiectau eu hunain o fewn y gymuned a darparu myfyrwyr sy’n gwirfoddoli â’r gefnogaeth a’r hyfforddiant y maent ei angen i wneud hynny.
Os yr hoffech chi wybod mwy am wirfoddoli ar un o’n prosiectau, neu fod gennych ddiddordeb mewn sefydlu eich prosiect eich hun, ymunwch â’n rhestr ohebu. Fe fyddwch yn derbyn e-byst rheolaidd i’ch hysbysu chi pan fo cyfleoedd gwirfoddoli newydd ar gael.
I ganfod mwy am ein gwaith, ein cyfleoedd a sut i gymryd rhan fe allwch hefyd anfon e-bost atom, ymweld â ni yn swyddfa GMB ar lawr cyntaf adeilad Undeb y Myfyrwyr neu lawrlwytho ein taflen wybodaeth. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar Facebook.