We currently have 111 societies, serving a diverse and wide range of activities, check out the A–Z, you’re sure to find something that appeals!
Societies are a great way to try new things, make new friends and enhance your social experience at University, you’ll also find many complement your academic studies too and you can gain skills, experiences and qualifications that will continue to benefit you long after you leave University!
Our societies are accessible to all, from amateur photographer to proficient actor, and if your interest isn’t represented then get in touch, it’s easy to start your own society and new ones are appearing all the time!
The University has made the pledge that all clubs and societies are free to join this year and has provided resources to the Students’ Union to pass on to you. Over the summer we have been examining your accounts to understand how much you need to effectively run your activities.
Although you are no longer allowed to charge a membership fee you are still able to raise sponsorship, run competitions (such as a raffle) and charge match or facility fees. If students have to complete a proficiency course before they take part in your activity you are also allowed to charge to cover those costs. Students can also expect to buy their own personalised kit.
The key thing that has changed is that no student will have to buy an AU card, a Societies card, a BUCS card or pay club/society membership. Hopefully this will lead to more people taking up your activities.
This is the first year of this new system, so we expect some teething problems. If you have any queries about your grant or any concerns about budgeting for the year ahead, come and see us and we’ll try to help. Remember that supplemental money is available for you to bid for after Welcome Week.
This is a deal that has been agreed to benefit the student body, to reduce the upfront cost of participating in the full range of activities available at Bangor University.
Ar hyn o bryd mae gennym 111 o gymdeithasau, yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau; gwelwch y rhestr A–Y, rydych yn siŵr o ganfod rhywbeth a fydd o ddiddordeb i chi!
Mae Cymdeithasau’n ffordd wych i roi cynnig ar bethau newydd, gwneud ffrindiau newydd a chyfoethogi eich profiadau cymdeithasol yn y Brifysgol. Byddwch yn canfod hefyd fod llawer ohonynt yn gallu ategu eich astudiaethau academaidd ac yn gyfle i ennill sgiliau, profiadau a chymwysterau a fydd yn parhau i fod o fudd i chi ymhell ar ôl i chi adael y Brifysgol!
Mae ein cymdeithasau’n agored i bawb, o’r ffotograffydd amatur i’r actor talentog ac os nad yw eich diddordeb chi’n cael ei gynrychioli yna cysylltwch â ni; mae’n hawdd dechrau eich cymdeithas eich hun ac mae rhai newydd yn ymddangos drwy’r amser!
Mae’r Brifysgol wedi gwneud ymroddiad y bydd ymaelodi â chlybiau a chymdeithasau yn rhad ac am ddim eleni ac mae wedi darparu adnoddau ariannol i Undeb y Myfyrwyr i’w trosglwyddo i chi. Dros yr haf rydym wedi bod yn archwilio eich cyfrifon i ddeall faint o arian y byddwch ei angen i gynnal eich gweithgareddau’n effeithiol.
Er nad oes gennych yr hawl bellach i godi am aelodaeth fe allwch godi arian drwy nawdd, drwy gynnal cystadlaethau (fel raffl) a thrwy godi ffioedd am gemau neu gyfleusterau. Os bydd rhaid i fyfyrwyr gwblhau cwrs hyfedredd cyn cymryd rhan yn eich gweithgaredd fe allwch godi arnynt i glirio’r costau hynny. Gellir hefyd ddisgwyl i fyfyrwyr brynu eu cit eu hunain sydd wedi’i bersonoli’n neilltuol ar eu cyfer.
Y mater allweddol sydd wedi newid yw na fydd raid i unrhyw fyfyriwr brynu cerdyn yr UA, cerdyn Cymdeithasau, cerdyn Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) na thalu aelodaeth clwb/cymdeithas. Gobeithio y bydd hynny’n arwain at fwy o bobl yn cymryd rhan yn eich gweithgareddau.
Dyma flwyddyn gyntaf y drefn hon, felly rydym yn disgwyl y bydd rhywfaint o broblemau cychwynnol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich grant neu unrhyw bryderon ynghylch cyllido ar gyfer y flwyddyn i ddod, dewch i’n gweld ni a byddwn yn ceisio eich helpu.
Daethpwyd i’r cytundeb hen er budd yr holl gorff myfyrwyr, i leihau’r gost o flaen llaw o gymryd rhan yn yr ystod lawn o weithgareddau sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor.