part-time carnivore
n. A person who chooses not to eat meat all the time.
People have many different reasons for being part-time carnivores. These include World Hunger, Climate Change and Health.
Most experts agree that there are 5 types of part-time carnivore, although some claim to have found a 6th option.
What kind of part-time carnivore are you?
See how many people at Bangor University have signed up and how much land and CO2 we’re already saving each week on our stats page.
If you’ve signed up you can also see your personal total on the stats page.
Livestock consume about a third of the world’s grain and only about 10% of that food gets converted into meat. Not very efficient!
Producing less meat would make more land available for growing crops for people to eat. With the world’s population predicted to grow to 9 billion by 2050, choosing to be part-time carnivores will help to ensure that there is enough food to go round.
It’s not just the methane from farting and burping cattle that we have to worry about. Fossil fuels burned in feed crop farming, transportation, refrigeration and processing all make meat rather more carbon intensive than most other food.
On top of all that, the meat industry is destroying huge areas of forest – some of the best natural carbon capture and storage systems. At the current rate, 40% of the Amazon rainforest could be replaced by cattle ranches and to grow soy to feed cattle. So, being a part-time carnivore can make a big difference to your carbon footprint.
Meat is delicious. That’s what most of us think anyway. So, given the chance to eat lots of meat, we do. But our natural diets are mostly plant based, so how do our bodies cope with a high meat diet?
Evidence is mounting that eating too much meat can have nasty long term health impacts. We’re not just talking about getting fat, although the link to obesity is an obvious one. Avoiding heart disease and bowel cancer should be reason enough to be a part-time carnivore.
Bangor University Part-Time Carnivore is affiliated to the global Part-Time Carnivore project. You can follow the project on Facebook and Twitter and, if you are not at Bangor University, you can sign up on the main website, parttimecarnivore.org.
Cigysydd Rhan Amser
e. Person sy’n dewis peidio â bwyta cig drwy’r amser.
Mae gan bobl lawer o resymau dros fod yn gigysyddion rhan amser. Mae’r rhain yn cynnwys Newyn Byd-eang, Newid Hinsawdd ac Iechyd.
Mae’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn cytuno fod yna 5 gwahanol fath o gigysydd rhan-amser, er bod rhai’n honni eu bod wedi ffeindio 6ed opsiwn.
Pa fath o gigysydd rhan amser ydych chi?
Gwelwch faint o bobl ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi arwyddo’n barod a faint o dir a CO2 yr ydym yn ei arbed yn barod bob wythnos ar ein tudalen ystadegau.
Mae da byw yn bwyta tua thrydydd o rawn y byd a dim ond tua 10% o’r bwyd yna sy’n cael ei droi yn gig. Nid yw hynny’n effeithlon iawn!
Byddai cynhyrchu llai o gig yn golygu fod mwy o dir ar gael i dyfu cnydau i bobl eu bwyta. Gyda phoblogaeth y byd yn debyg o gynyddu i 9biliwn erbyn 2050, bydd dewis bod yn gigysydd rhan amser yn helpu i sicrhau fod yna ddigon o fwyd i bawb.
Mae mwy i boeni amdano na dim ond y methan o wartheg yn rhechu a thorri gwynt. Mae tanwydd ffosil a losgir wrth ffermio cnydau i fwydo anifeiliaid, trafnidiaeth, rhewi a phrosesu i gyd yn gwneud cig yn fwy carbon dwys na’r rhan fwyaf o fwydydd eraill.
Ar ben hynny i gyd, mae’r diwydiant cig yn dinistrio ardaloedd enfawr o goedwigaeth – sef rhai o’r systemau naturiol gorau i ddal a storio carbon. Ar y raddfa gyfredol, gallai cymaint â 40% o fforest law’r Amazon gael ei throi’n ffermydd gwartheg ac yn gaeau i dyfu soia i fwydo gwartheg. Felly, gallai bod yn gigysydd rhan amser wneud gwahaniaeth enfawr i’ch ôl troed carbon.
Mae cig yn flasus. Dyna beth mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei gredu beth bynnag. Felly, o gael y cyfle i fwyta lot o gig, rydym yn gwneud hynny. Ond mae ein diet naturiol yn seiliedig ar blanhigion, felly sut mae ein cyrff yn ymdopi â diet sy’n uchel mewn cig?
Mae tystiolaeth yn cronni bod bwyta gormod o gig yn gallu cael effeithiau tymor hir niweidiol iawn. Nid dim ond yn sgìl rhoi pwysau ymlaen mae hyn, er bod y cysylltiad â gordewdra’n un amlwg. Dylasai’r cyfle i osgoi clefyd y galon a chanser y coluddyn fod yn ddigon o reswm dros droi’n gigysydd rhan amser.
Mae Cigysydd Rhan Amser Prifysgol Bangor yn gysylltiedig â’r prosiect Cigysydd Rhan Amser byd-eang. Gallwch ddilyn y prosiect ar Facebook a Twitter ac os nad ydych ym Mhrifysgol Bangor, gallwch ymaelodi ar y brif wefan, parttimecarnivore.org.