Bangor’s a pretty small place and most of us students are pretty switched on to getting around on our feet and bikes. However, it’s getting home and back to Bangor that the carbon really kicks it, so how about getting the train when you’re off home rather than getting your parents to come and grab you and your washing, or why not see if there’s someone heading in the same direction as you on Student Carshare or goCarShare.
Did you know that at current levels, air travel creates at least 6% of the UK’s total carbon dioxide emissions, but estimates suggest that this could rise to a third of all emissions by 2050. According to People & Planet 73.7% of students would consider taking fewer flights to help the environment – so next time you’re off across the UK, why don’t you join that 73.7% and grab the train or grab a lift instead!
At the SU, we frequently calculate our business travel carbon footprint, last year we emitted 2575kg CO₂e travelling around training to be the best we can be for you guys, this is the same as amount of carbon as it would take to produce 858.3 American Cheeseburgers.
Mae Bangor yn lle eithaf bychan ac mae’r rhan fwyaf ohonom ni fyfyrwyr yn teithio o gwmpas y dref ar ein traed neu ar gefn beic. Fodd bynnag, mae mynd adref a dod yn ôl i Fangor yn arwain at ôl troed carbon felly beth am ddal y trên pan ewch chi adref yn hytrach na chael eich rhieni i ddod i’ch nôl chi a’ch golch, neu pam na wnewch chi weld os oes rhywun yn mynd i’r un cyfeiriad â chi ar Student Carshare neu goCarShare?
Oeddech chi’n gwybod fod hedfan, ar hyn o bryd, yn creu tua 6% o allyriadau carbon deuocsid y DU, ond mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai hyn godi i draean o’r holl allyriadau erbyn 2050. Yn ôl Pobl a Phlaned byddai 73.7% o fyfyrwyr yn ystyried hedfan llai er mwyn helpu’r amgylchedd – felly’r tro nesaf fyddwch chi’n teithio o fewn y DU, pam na wnewch chi ymuno â’r 73.7% yna a chymryd y trên neu lifft yn lle hedfan?
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cyfrifo ein hôl troed carbon teithio busnes yn rheolaidd; y llynedd fe wnaethom ni ryddhau 2575kg o CO₂e yn teithio o gwmpas yn cael ein hyfforddi i fod y gorau y gallwn ni fod ar eich cyfer – mae hyn yr un faint o garbon ac a fyddai’n cymryd i greu 858.3 byrger caws Americanaidd.