Sustainability
Introduction
Recycling
Food
Lug a Mug
Part-Time Carnivore
Travel
Fairtrade
Freecycling
Policy
Environmental Impacts
Environmental Statement
Environmental Pledge

Waste and Recycling

Because recycling and when to put your bin out is all a bit confusing, this year we’ve written a survival guide for you… check it out.

According to People & Planet, 75.2% of students claim to recycle which is fantastic, and at Bangor, we reckon we’re probably doing even better than that!

Recycling isn’t just something your Dad does, it’s become cool and important these days, and it’s the easiest way for you to have a positive impact on your planet and the world around you. When you chuck your empty beer can in a blue box, you’re saving loads of energy being expended mining and processing bauxite into new aluminium – pretty cool for just chucking away your empty!

The problem with recycling is that everyone does it differently – so for the record, this is the colour scheme Bangor rolls with when it comes to recycling!

We’ve got all of these and more in the Students’ Union building, so feel free to come in and drop some stuff off for recycling! Also, because we’re awesome, we’ve also got boxes where you can recycle:

Really, the Union is a bit of a recycling hub!
Bet you never thought you could recycle stamps! There’s actually a lot more stuff you can recycle than your standard empty beer can – clothes that you don’t wear anymore, don’t leave them cluttering up your wardrobe on your floor, take them to one of the many charity shops in Bangor, you might even pick up some bargains while you’re there! Charity shops will also take all those books you never read and DVDs that you don’t watch any more off your hands, as well as any embarrassing music albums that you want to get rid of!

If you’ve damaged your specs doing something silly after a few drinks, there’s no point hanging on to them, why not pop to one of the opticians in Bangor and ask if they’ll take pass them on to Vision Aid Overseas to be used by someone in need.

You can find out more about recycling around the University, and if you have any suggestions or have spotted where another few recycling bins would be useful then email the VP Societies & Community.

If you live in private housing rather than halls, it might be worth having a look at Gwynedd Council’s website about waste and recycling. You can grab more blue boxes off them, get a special composting bin and find out just when exactly it is that you’re meant to put your bins out!

Cynaladwyedd
Cyflwyniad
Ailgylchu
Bwyd
Lug a Mug
Cigysydd Rhan Amser
Teithio
Masnach Deg
Rhadgylchu
Polisi
Effeithiau Amgylcheddol
Datganiad Amgylcheddol
Addewid Amgylcheddol

Gwastraff ac Ailgylchu

Gan fod ailgylchu a phryd i roi eich bin allan yn gallu bod ychydig yn ddryslyd, eleni rydym wedi llunio llawlyfr goroesi i chi...cymrwch olwg.

Yn ôl Pobl a Phlaned, mae 75.2% o fyfyrwyr yn honni eu bod yn ailgylchu, sy’n wych, ac ym Mangor rydym o’r farn fod y ganran hyd yn oed yn uwch na hynny.

Nid jyst rhywbeth mae eich tad yn ei wneud yw ailgylchu; mae wedi dod yn ffasiynol ac yn bwysig yn yr oes sydd ohoni a dyma’r ffordd hawsaf i chi gael effaith cadarnhaol ar eich planed a’r byd o’ch cwmpas. Pan fyddwch chi’n taflu eich can gwag o gwrw i’r blwch glas, byddwch chi’n arbed llwyth o ddefnydd o egni yn cloddio a phrosesu bocsit i wneud alwminiwm newydd – sy’n fargen reit dda am wneud dim ond taflu can gwag!

Y broblem gydag ailgylchu yw bod pawb yn ei wneud yn wahanol – felly dyma gofnod i chi o’r cynllun lliwio a ddefnyddir i ailgylchu ym Mangor.

Mae gennym y rhain i gyd a mwy yn adeilad Undeb y Myfyrwyr, felly mae croeso i chi ddod â’ch stwff yma ar gyfer ei ailgylchu. Hefyd, am ein bod ni mor gydwybodol, mae gennym flychau ar gyfer ailgylchu:

Felly mae Undeb yn dipyn o ganolfan ar gyfer ailgylchu!
Rwy’n siŵr doeddech chi ddim yn meddwl y gallech chi ailgylchu stampiau! Ond mewn gwirionedd mae yna lawer iawn o bethau y gallwch chi eu hailgylchu yn ogystal â’ch caniau cwrw gwag – dillad dydych chi ddim eu hangen er enghraifft; peidiwch â’u gadael nhw i lenwi’r wardrob neu’n bentwr ar y llawr, ewch â nhw i un o siopau elusen Bangor a falle ffeindiwch chi fargen pan ydych chi yno! Bydd siopau elusen hefyd yn cymryd yr holl hen lyfrau yna wnaethoch chi ddim eu darllen a DVDs nad ydych chi eisiau’u gweld eto, yn ogystal ag unrhyw recordiau cerddoriaeth sy’n creu embaras ac rydych chi am gael eu gwared!

Os ydych chi wedi niweidio eich sbectol yn gwneud rhywbeth gwirion ar ôl cael ychydig o ddiodydd, does dim pwynt dal ymlaen iddyn nhw, pam nad ewch chi â nhw at un o optegwyr Bangor a gofyn iddyn nhw eu hanfon ymlaen at Gymorth Golwg Tramor er mwyn iddyn nhw gael eu defnyddio gan rywun sydd mewn angen.

Gallwch ganfod mwy am ailgylchu yn y Brifysgol ac os gennych unrhyw awgrymiadau neu’ch bod chi’n gwybod am rywle fyddai’n manteisio ar gael mwy o finiau ailgylchu yna anfonwch e-bost at yr IL Cymdeithasau a’r Cymuned.

Os ydych chi’n byw mewn llety preifat yn hytrach na neuadd breswyl, byddai werth i chi gymryd golwg ar wefan Cyngor Gwynedd i ganfod mwy am wastraff ac ailgylchu. Gallwch gael mwy o flychau glas ganddyn nhw, bin compostio arbennig, a chanfod yn union bryd rydych chi i fod i roi eich biniau allan!