The new Lug a Mug helps you save the environment while saving money
According to Tip Top Jobs, the majority of people will drink 4 or more cups of tea or coffee everyday. This means that an individual person could be using 100 paper cups every month, most of which don’t get recycled and can cost a small fortune, but thanks to a new initiative by the SU and University, there is now a way to help save the environment and help save you money too…
Introducing the Lug a Mug.
These handy thermal mugs are available for all caffeine addicts around the university for just £5. And for your fiver, you don’t just get a mug, you’ll also get a voucher for 5 cups of tea/coffee – a fiver for a mug and five brews? Sounds like a proper bargain!
Using the Lug a Mug will also save you a massive 10% on your hot drinks to encourage the environmentally friendly mugs and benefit everyone who uses them.
The funky design not only looks great but the thermal insulation means your brew will stay warm without the spills or leaks of paper cups, making it perfect for lectures and around the office.
You can grab yours from Bar Uno, Café Teras or the Main Arts Coffee Pod.
Mae’r Lug a Mug newydd yn eich helpu i warchod yr amgylchedd, ac arbed arian hefyd.
Yn ôl Tip Top Jobs, bydd y mwyafrif o bobl yn yfed 4 neu fwy o baneidiau o de neu goffi bob dydd. Mae hyn yn golygu y gallai unigolyn ddefnyddio hyd at 100 o gwpanau papur bob mis, a’r rhan fwyaf ohonynt ddim yn cael eu hailgylchu a thros amser yn costio ffortiwn, ond bellach, diolch i fenter newydd gan UM a’r Brifysgol, mae yna ffordd o helpu i warchod yr amgylchedd a’ch helpu chi i arbed arian ar yr un pryd...
Yn cyflwyno’r Lug a Mug.
Mae’r mygiau thermol buddiol hyn ar gael i bawb sy’n gaeth i gaffein yn y brifysgol, am £5 yn unig; ar ben hynny, nid yn unig y mwg a gewch chi am eich £5, ond HEFYD tocyn ar gyfer 5 paned o de/coffi – pum punt am fwg a phum diod? Mae’n swnio fel bargen go iawn!
Bydd defnyddio’r Lug a Mug hefyd yn arbed 10% ar eich diodydd poeth, i annog defnydd o’r mygiau sy’n garedig i’r amgylchedd a rhoi hwb i bawb sy’n eu defnyddio.
Nid yn unig mae’r cwpan cŵl yn edrych yn wych, ond mae’r insiwleiddio thermol yn golygu y bydd eich diod yn parhau’n boeth heb ollwng diferyn, sy’n ei wneud yn berffaith ar gyfer darlithiau a’r swyddfa.
Gallwch brynu eich un chi o Far Uno, Caffi’r Teras neu Pod Coffi Prif Adeilad y Celfyddydau.