Did you know that 51.9% of students eat meat at least once a day? Food is one of the biggest contributions to your carbon footprint, but it’s also one of the easiest to change – sure, maybe being a Vegan isn’t your thing, but how about trying Meat Free Monday or becoming a Part Time Carnivore and cutting your carbon – and your shopping bill!
Also, next time you’re out doing your food shopping, try and buy seasonal produce – it’s much better for the environment – find out what’s in season.
For an easy way to get Seasonal & Local food – you could even join the local Fruit and Veg Co-operative, it’s absolutely fantastic value for money, delicious and means you’re saving the planet and the economy – win! Check it out.
Try not to chuck anything away – and if you do, make sure it goes in the food waste bin! Have a look at Love Food Hate Waste for some great ideas on what to do with your leftovers, make some dishes that will make your flatmates jealous and help the planet!
The University is pretty keen on Sustainable Food too and even have their own policy – why not take a look. We feed into this policy, so if you’ve got any ideas then email the VP Societies & Community.
Oeddech chi’n gwybod bod 51.9% o fyfyrwyr yn bwyta cig o leiaf unwaith y diwrnod? Mae bwyd yn un o’r cyfraniadau mwyaf i’ch ôl troed carbon, ond mae hefyd yn un o agweddau eich bywyd sydd hawsaf i’w newid - wrth gwrs efallai nad ydych am fod yn fegan, ond beth am roi cynnig ar Ddydd Llun heb Gig neu droi’n Gigysydd Rhan Amser a thorri eich ôl carbon - a’ch bil siopa!
Hefyd, tro nesaf byddwch yn siopa am fwyd, ceisiwch fwyta cynnyrch tymhorol – mae’n llawer gwell i’r amgylchedd – dewch i wybod beth sydd yn ei dymor.
Am ffordd hawdd o fwyta bwyd tymhorol a lleol – gallech ymuno â’r cwmni cydweithredol ffrwythau a llysiau lleol. Mae’n werth rhagorol am arian, yn ofnadwy o flasus ac yn golygu eich bod yn helpu’r blaned a’r economi – beth well? Ewch amdani!
Ceisiwch beidio taflu unrhyw beth – ac os ydych yn gorfod gwneud, gwnewch yn siŵr ei fod yn mynd i’r bin gwastraff bwyd! Cymerwch olwg ar Caru Bwyd, Casáu Gwastraff am syniadau rhagorol ynghylch beth i’w wneud gyda sbarion, gwnewch brydau bwyd fydd yn gwneud eich cyd letywyr yn eiddigeddus a helpwch achub y blaned!
Mae’r Brifysgol yn reit frwd dros Fwyd Cynaliadwy hefyd ac mae ganddynt hyd yn oed eu polisi eu hunain – pam na chymrwch chi olwg. Rydym ni’n cyfrannu at y polisi hwn, felly os oes gennych unrhyw syniadau anfonwch e-bost at IL Cymdeithasau a Chymuned.