Fairtrade ensures that poor produces and workers in developing countries are not exploited, it is about guaranteeing a better deal for producers. Small-scale farmers receive a fair and guaranteed price for their product and workers on plantations receive a fair wage. This price covers the cost of sustainable living and production. It is a price that is guaranteed not to fall below a certain level regardless of market fluctuations. Workers on plantations receive a fair and guaranteed wage for their work.
As consumers we have a choice, we can choose products that support the world’s poorest instead of exploiting them.
Bangor University and the Students’ Union are both Fairtrade organisations, having gained the status of a Fairtrade University in September 2009. Bangor city itself gained Fairtrade status in 2008, and Wales as a nation was the first ever Fairtrade country!
The Students’ Union played an important role in encouraging the University to gain Fairtrade status, and we’re still all about campaigning for fair-trade! From getting speakers from developing countries to come and talk about how fair-trade has impacted on them to holding taste-testing sessions and showing people that fair-trade doesn’t just have a better impact – it tastes better too!
Fairtrade products are available throughout the University, from fruit juices, to cola, to wine – so do your bit, and choose Fairtrade for a fairer world!
This year, we’ll be hosting a fantastic Fairtrade Fortnight once again. Last year we had the CEO of Traidcraft come and talk, quite an honor for our small corner of North Wales. We’re also busy making sure the University stays a Fairtrade Institution and encouraging places like Bar Uno to stock Fairtrade Wine and other goodies!
Mae Masnach Deg yn sicrhau nad yw cynhyrchwyr a gweithwyr tlawd mewn gwledydd sy’n datblygu yn cael eu hecsploetio, mae ynghylch gwarantu dêl well ar gyfer cynhyrchwyr. Mae ffermwyr graddfa fach yn derbyn pris teg sydd wedi’i warantu ar gyfer eu cynnyrch ac mae gweithwyr ar blanhigfeydd yn derbyn cyflog teg. Mae’r pris hwn yn cynnwys costau cynhyrchu a byw’n gynaliadwy. Mae’n bris y gwarantir na fydd yn disgyn o dan lefel neilltuol beth bynnag yw amrywiadau’r farchnad. Bydd gweithwyr ar blanhigfeydd yn derbyn cyflog teg wedi’i warantu am eu gwaith.
Fel defnyddwyr mae gennym ddewis, gallwn ddewis cynnyrch sy’n cefnogi pobl dlotaf y byd yn hytrach na’u hecsploetio.
Mae Prifysgol Bangor a’r Undeb Myfyrwyr ill dau yn fudiadau Masnach Deg; enillwyd statws Prifysgol Masnach Deg ym mis Medi 2009. Enillodd dinas Bangor ei hun statws Masnach Deg yn 2008, a Chymru fel cenedl oedd y wlad Fasnach Deg gyntaf erioed!
Chwaraeodd Undeb y Myfyrwyr ran bwysig yn cymell y Brifysgol i ennill statws Masnach Deg, ac mae ymgyrchu dros fasnach deg dal yn bwysig iawn i ni! O wahodd siaradwyr o wledydd sy’n datblygu i ddod i siarad ynghylch sut mae Masnach Deg wedi effeithio er gwell arnyn nhw i gynnal sesiynau blasu a dangos i bobl bod Masnach Deg nid yn unig yn cael effeithiau cadarnhaol – mae’n blasu’n well hefyd!
Mae cynnyrch Masnach Deg ar gael drwy’r Brifysgol, o sudd ffrwythau a cola at win – felly tynnwch eich pwysau, a dewiswch Fasnach Deg ar gyfer byd tecach.
Eleni, byddwn yn cynnal ein Pythefnos Masnach Deg wych unwaith eto. Y llynedd fe ddaeth Prif Weithredwr Traidcraft i siarad â ni, eitha’ anrhydedd i’n cornel fach ni o Ogledd Cymru. Rydym hefyd yn brysur yn gwneud yn siŵr fod y Brifysgol yn parhau i fod yn Sefydliad Masnach Deg ac yn annog llefydd fel Bar Uno i gadw gwinoedd Masnach Deg a phethau da eraill.