Athletic Union
AU Home
Membership
AU Clubs
AU Clothing
BUCS Leagues

The Athletic Union

Welcome to Bangor’s Athletic Union: the home of Bangor sport. With 60 sports clubs, we offer everything from archery and dance to mountaineering and canoe polo. There are few better ways to meet new people, improve your health and fitness and thoroughly enjoy yourself than to take part in sport by joining the AU clubs. This is probably the best opportunity you’ll ever have to get involved in so many sports so don’t miss out and make the most of what is on offer whilst here in Bangor.

Competition

Many of our clubs compete in BUCS (British Universities and Colleges Sport), either in leagues every Wednesday, or in individual championships on weekends. Many of our clubs also compete in local leagues on weekends and some weekday evenings, so if competition is what you’re after, look no further!

Participation

All of our clubs are friendly, approachable and open for anyone to join. They also organise countless social events alongside their sport. We also offer a number of one-off Intramural (casual sport) events so whatever your ability, we’ve got everything you want right here!

Don’t want to actively participate? Or perhaps you just want to enjoy some live sport? Come and watch and support our teams in action. Details of where and when they compete can be found on the fixtures page of the website…

Club Grants 2012/13

The University has made the pledge that all clubs and societies are free to join this year and has provided resources to the Students’ Union to pass on to you. Over the summer we have been examining your accounts to understand how much you need to effectively run your activities.

Although you are no longer allowed to charge a membership fee you are still able to raise sponsorship, run competitions (such as a raffle) and charge match or facility fees. If students have to complete a proficiency course before they take part in your activity you are also allowed to charge to cover those costs. Students can also expect to buy their own personalised kit.

The key thing that has changed is that no student will have to buy an AU card, a Societies card, a BUCS card or pay club/society membership. Hopefully this will lead to more people taking up your activities.

This is the first year of this new system, so we expect some teething problems. If you have any queries about your grant or any concerns about budgeting for the year ahead, come and see us and we’ll try to help. Remember that supplemental money is available for you to bid for after Welcome Week.

This is a deal that has been agreed to benefit the student body, to reduce the upfront cost of participating in the full range of activities available at Bangor University.

Yr Undeb Athletau
Hafan yr UA
Aelodaeth
Clybiau’r UA
Dillad yr UA
Cynghreiriau BUCS

Cyflwyniad i’r Undeb Athletau

Croeso i Undeb Athletau Bangor, cartref chwaraeon Bangor. Mae gennym 60 o glybiau chwaraeon: rydym yn cynnig popeth o Saethyddiaeth a Dawns i Ddringo a Pholo Canŵ. Does yna ddim ffordd well o gyfarfod â phobl newydd, gwella eich iechyd a ffitrwydd a mwynhau eich hun na chymryd rhan mewn chwaraeon drwy ymuno â chlybiau’r UA. Dyma fwy na thebyg y cyfle gorau gewch chi byth i gymryd rhan mewn cymaint o chwaraeon felly peidiwch â methu allan a gwnewch y mwyaf o’r hyn sy’n cael ei gynnig yma ym Mangor.

Cystadleuaeth

Mae nifer o’n clybiau’n cystadlu o dan fantell Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), naill ai mewn cynghreiriau bob dydd Mercher, neu mewn pencampwriaethau unigol ar benwythnosau. Mae llawer o’n clybiau hefyd yn cystadlu mewn cynghreiriau lleol ar benwythnosau a rhai nosweithiau o’r wythnos, felly os ydych chi’n chwilio am gystadleuaeth peidiwch â mynd dim pellach!

Cymryd Rhan

Mae ein clybiau i gyd yn gyfeillgar ac agos atoch ac yn agored i unrhyw un ymuno â nhw. Maent hefyd yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol dirifedi yn ogystal â chwaraeon. Rydym hefyd yn cynnig nifer o ddigwyddiadau Rhyngfurol (chwaraeon llai cystadleuol) felly beth bynnag eich lefel gallu, mae popeth ar eich cyfer chi ar gael yma!

Ddim eisiau cymryd rhan? Neu efallai eich bod eisiau mwynhau chwaraeon byw? Dewch i wylio a chefnogi ein timau’n chwarae. Gellir canfod manylion am bryd a ble y maent yn cystadlu ar dudalen Gemau’r wefan.

Grantiau Clybiau a Chymdeithasau

Mae’r Brifysgol wedi gwneud ymroddiad y bydd ymaelodi â chlybiau a chymdeithasau yn rhad ac am ddim eleni ac mae wedi darparu adnoddau ariannol i Undeb y Myfyrwyr i’w trosglwyddo i chi. Dros yr haf rydym wedi bod yn archwilio eich cyfrifon i ddeall faint o arian y byddwch ei angen i gynnal eich gweithgareddau’n effeithiol.

Er nad oes gennych yr hawl bellach i godi am aelodaeth fe allwch godi arian drwy nawdd, drwy gynnal cystadlaethau (fel raffl) a thrwy godi ffioedd am gemau neu gyfleusterau. Os bydd rhaid i fyfyrwyr gwblhau cwrs hyfedredd cyn cymryd rhan yn eich gweithgaredd fe allwch godi arnynt i glirio’r costau hynny. Gellir hefyd ddisgwyl i fyfyrwyr brynu eu cit eu hunain sydd wedi’i bersonoli’n neilltuol ar eu cyfer.

Y mater allweddol sydd wedi newid yw na fydd raid i unrhyw fyfyriwr brynu cerdyn yr UA, cerdyn Cymdeithasau, cerdyn Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) na thalu aelodaeth clwb/cymdeithas. Gobeithio y bydd hynny’n arwain at fwy o bobl yn cymryd rhan yn eich gweithgareddau.

Dyma flwyddyn gyntaf y drefn hon, felly rydym yn disgwyl y bydd rhywfaint o broblemau cychwynnol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich grant neu unrhyw bryderon ynghylch cyllido ar gyfer y flwyddyn i ddod, dewch i’n gweld ni a byddwn yn ceisio eich helpu.

Daethpwyd i’r cytundeb hen er budd yr holl gorff myfyrwyr, i leihau’r gost o flaen llaw o gymryd rhan yn yr ystod lawn o weithgareddau sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor.