Bangor Students’ Union

Trustee & Senator Elections: the winners

Here are the winners of the Trustee & Senator Elections:

  • Postgraduate Research Senator: Pippa Beston
  • Access Senator: Leo Johnson
  • International Students’ Senator: Monalisa Odibo
  • Part-time Students’ Senator: Alicia Saycell
  • Gender Equality Senator: Ellie Davison
  • Sexuality Equality Senator: Martyn Curzey
  • Welsh Education Senator: Guto Gwilym
  • General Senators: Adam Sharpley, Paul Rooney
  • Trustees: Trefor Alun, Ben Price, Craig Simmonds

» View the full results

Heroes Wanted!

Bangor Students’ Union is looking for energetic and enthusiastic volunteers to help us out during Welcome Week with a variety of tasks including:

  • Helping new students unpack
  • Organising events
  • Helping at Serendipity, handing out maps etc
  • Promoting NUS & Love Bangor student discount cards
  • SU promotion and making sure people know about Senate and the General Meeting
  • Minibus driving (you must have a MiDAS certificate for this – if you don’t have one and are over 21 with 3 years driving experience we can train you)
  • Lots of other stuff that we can think of nearer the time…

In exchange for your hard work, you’ll get a lovely t-shirt, lunches on days you’re helping and lots of appreciation from your Sabbs. We’ll also give you free entry to Academi during Welcome Week! This is a great chance to get to meet new people and help students settle in Bangor. As well as this, you’ll gain a whole range of skills, helping make you even more employable when you leave Bangor. You’ll also get BEA points.

» Read more about Heroes

Our Manifesto

Have your say and Win an iPad 2! Complete the SU’s survey “Our Manifesto” on your academic experience, designed to inform the SU’s direction and campaigns for the year ahead and represent your views on how to improve your student experience!

The National Student Survey

January sees the launch of the National Student Survey (NSS) 2013 at most Higher Education Institutions and most Further Education Colleges providing Higher Education courses across the UK. The NSS is your opportunity to give your opinions on what you liked about your time at your institution/course as well as things that you felt could have been improved.

Your feedback is used to compile year on year comparative data. Results are publicly available to prospective students, their families and advisors to help make informed choices of where and what to study. The NSS results are also available through ‘Key Information Sets’ (KIS), which are published on the websites of universities and colleges and the Unistats website.

The survey is administered by Ipsos MORI, an independent market research agency. So please be assured that you and your answers will remain anonymous at all times.

» Read more about the NSS

Student-Led Teaching Awards

The Student-Led Teaching Awards are back! After the success of last years’ awards (300+ nominations, 15 awards given to staff at an event attended by 200+ people), the Students’ Union, together with the University will be holding the SLTAs 2013.

» Find out more about the Student-Led Teaching Awards

Sabbatical Elections: the winners

The votes have been counted in the Sabbatical Elections, and the winners are:

  • President: Antony Butcher
  • VP Education & Welfare: Rhys Taylor
  • VP Societies & Community: Ash Kierans
  • VP Sport & Healthy Living: Nicola Pye

» View the full results

Undeb Myfyrwyr Bangor

Etholiadau Ymddiriedolwr a Seneddwyru

Dyma’r ennillwyr:

  • Seneddwr Ôl-radd Ymchwil: Pippa Beston
  • Seneddwr Mynediad: Leo Johnson
  • Seneddwr Myfyrwyr Rhyngwladol: Monalisa Odibo
  • Seneddwr Myfyrwyr Rhan-amser: Alicia Saycell
  • Seneddwr Cydraddoldeb Gender: Ellie Davison
  • Seneddwr Cydraddoldeb Rhywioldeb: Martyn Curzey
  • Seneddwr Addysg Gymraeg: Guto Gwilym
  • Seneddwyr Cyffredinol: Adam Sharpley, Paul Rooney
  • Ymddiriedolwyr: Trefor Alun, Ben Price, Craig Simmonds

Gwelwch y canlyniadau llawn

Yn eisiau: Arwyr!

Mae Undeb Myfyrwyr Bangor yn chwilio am wirfoddolwyr egnïol a brwdfrydig i’n helpu ni yn ystod yr Wythnos Groeso gydag amryw o dasgau gan gynnwys:

  • Helpu myfyrwyr newydd i ddadbacio
  • Trefnu digwyddiadau
  • Helpu yn Serendipedd, dosbarthu mapiau etc.
  • Hyrwyddo’r cerdyn UCM Caru Bangor sy’n cynnig gostyngiadau i fyfyrwyr
  • Hyrwyddo UM a sicrhau bod pobl yn gwybod am y Senedd a’r Cyfarfod Cyffredinol
  • Gyrru bws mini (rhaid i chi gael tystysgrif MiDAS ar gyfer hyn – os nad ydych yn meddu ar un a’ch bod dros 21 gyda 3 mlynedd o brofiad gyrru gallwn eich hyfforddi)
  • Digonedd o bethau eraill y byddwn yn meddwl amdanynt yn nes at yr amser…

Yn gyfnewid am eich gwaith caled, fe gewch grys-t hyfryd, cinio am ddim ar y dyddiau y byddwch yn helpu a gwir werthfawrogiad eich swyddogion sabothol. Byddwch hefyd yn cael mynediad am ddim i Academi yn ystod yr Wythnos Groeso! Mae hwn yn gyfle gwych i ddod i nabod pobl newydd a helpu myfyrwyr i gynefino â Bangor. Yn ogystal â hynny, byddwch yn cael cyfle i ddatblygu ystod eang o sgiliau a fydd o gymorth i chi yn y farchnad waith ar ôl i chi adael Bangor. Byddwch hefyd yn cael pwyntiau at Wobr Cyflogadwyedd Bangor.

» Darllenwch mwy am Arwyr

Ein Maniffesto

Mynegwch eich barn ac enillwch iPad 2! Cwblhewch arolwg UM “Ein Maniffesto” ynglŷn â’ch profiad academaidd, sydd wedi’i gynllunio i dywys cyfeiriad ac ymgyrchoedd UM ar gyfer y flwyddyn i ddod a chynrychioli eich safbwyntiau ar sut i wella eich profiad fel myfyrwyr.

Yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

Ym mis Ionawr bydd yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) 2013 yn cael ei lansio yn y rhan fwyaf o Sefydliadau Addysg Uwch a’r rhan fwyaf o Golegau Addysg Bellach sy’n darparu cyrsiau Addysg Uwch ym mhob rhan o’r DU. Yr arolwg yw’ch cyfle i roi eich barn ar yr hyn roeddech chi’n ei hoffi am eich amser yn eich sefydliad/cwrs yn ogystal â phethau roeddech chi’n teimlo y gallant fod yn well.

Defnyddir adborth myfyrwyr i grynhoi data cymharol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae’r canlyniadau yn cael eu rhoi ar gael yn gyhoeddus i ddarpar fyfyrwyr, eu teuluoedd a’u cynghorwyr i’w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am ble a beth i’w astudio. Mae canlyniadau’r arolwg hefyd ar gael drwy ‘Setiau Gwybodaeth Allweddol’ (KIS), a gyhoeddir ar wefannau prifysgolion a cholegau a gwefan Unistats.

Gweinyddir yr arolwg gan Ipsos MORI, asiantaeth ymchwil i’r farchnad annibynnol. Cewch fod yn sicr y byddwch chi a’ch atebion yn aros yn ddienw bob amser.

» Darllenwch ragor am yr arolwg

Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr

Mae’r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr yn eu hôl. Yn dilyn llwyddiant gwobrau’r llynedd (dros 300 o enwebiadau, 15 gwobr yn cael eu cyflwyno i aelodau staff mewn digwyddiad a fynychwyd gan dros 200 o bobl) bydd Undeb y Myfyrwyr, ar y cyd gyda’r Brifysgol, yn cynnal Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr 2013.

» Mwy o wybodaeth am y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr

Etholiadau Sabothol: yr ennillwyr

Mae’r pleidleisiau wedi cael eu cyfrif yn yr Etholiadau Sabothol, a’r ennillwyr yw:

  • Llywydd: Antony Butcher
  • IL Addysg a Lles: Rhys Taylor
  • IL Cymdeithasau a’r Gymuned: Ash Kierans
  • IL Chwaraeon a Byw’n Iach: Nicola Pye

Gwelwch y canlyniadau llawn